Triciau'r Tudalennau
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Dau lyfr tebyg iawn o ran maint, sy’n cynnwys o leiaf 100 o dudalennau’r un
Cyfarwyddiadau
- Cydblethwch dudalennau’r llyfrau yn ofalus ac yn gyson fel eu bod yn gorgyffwrdd hyd at ganol y dudalen, fwy neu lai.
- Daliwch y llyfrau wrth eu meingefn a thynnwch!
Canlyniadau ac Esboniad
Ffrithiant yw’r grym sy’n gweithredu yn erbyn gallu dau arwyneb sy’n cyffwrdd â’i gilydd i symud. Mae’r ffrithiant sydd rhwng dim ond dwy dudalen yn fach iawn, ond oherwydd bod llawer o dudalennau yn y llyfrau mae’r grym yn dod yn amlwg iawn!