Sŵn fel Iâr
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Cwpan plastig neu bot iogwrt
- Clwtyn gwlyb
- Darn o linyn llyfn
- Pensil neu feiro
Cyfarwyddiadau
- Defnyddiwch bensil neu feiro i dorri twll yng ngwaelod cwpan plastig.
- Torrwch ddarn o linyn a'i wthio trwy'r twll. Clymwch gwlwm ym mhen y llinyn sydd y tu mewn i'r cwpan er mwyn ei atal rhag llithro'n ôl allan trwy'r twll.
- Cymerwch y clwtyn gwlyb a'i ddal yn dynn o amgylch y llinyn. Nawr, tynnwch y clwtyn yn gadarn ar hyd y llinyn er mwyn clywed y cwpan yn clwcian.
Canlyniadau ac Esboniad
Mae tynnu'r clwtyn ar hyd y llinyn yn gwneud iddo ddirgrynu a chynhyrchu sain isel. Ond mae'r cwpan a'r aer sydd o'i amgylch yn dirgrynu hefyd, felly caiff y sain ei chwyddo ddigon i ni allu ei chlywed.