Straeon o faes ffiseg - llyfryn 1 Unedau hynod a mesurau anghyffredin
Adnoddau Cymraeg for 11-14 14-16 16-19
Cyflwyniad
Mae stori ffiseg yn cydblethu â straeon pobl. Mae Richard wedi casglu llawer o straeon rhyfeddol, difyr ac eglurhaol ac rwy’n falch iawn bod y Sefydliad Ffiseg yn gallu ei helpu i’w rhannu. Rwy’n siwr y cewch eich cyfareddu gan y straeon eu hunain a’r modd diddorol y cânt eu hailadrodd yma. Byddant o ddiddordeb i unrhyw athro, ac maent yn barod i’w defnyddio gyda myfyrwyr er mwyn dod â’r ddisgyblaeth yn fyw a dangos ei bod yn dibynnu ar ddyfeisgarwch ac eiddilwch pobl.
Y llyfryn hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o lyfrynnau ac mae’n dangos sut y mae ffiseg wedi datblygu o awydd i ddarganfod, diffinio a mesur pethau y gellir eu meintioli – ac yna chwilio am ffyrdd o’u cysylltu â phethau eraill. Rwy’n siwr y byddwch yn ei fwynhau.
Charles Tracy
Pennaeth Addysg, Y Sefydliad Ffiseg
Mae rhai o’r straeon a glywais gan fy athrawon ffiseg yn fyw iawn yn fy nghof o hyd. Rwy’n cofio clywed am elc dof Tycho Brahe a’i drwyn ffug o fetel, a chlywed am nodweddion ecsentrig niferus Newton. Pan ddes i’n athro, roeddwn innau’n rhannu’r straeon hyn â’m dosbarthiadau a dechreuais gasglu rhagor ohonynt drwy sgwrsio ag athrawon a thrwy ddarllen. Er nad wyf yn athro ysgol mwyach, mae gen i gasgliad o gannoedd o straeon am ffiseg erbyn hyn, ac rwy’n dal i ddod o hyd i rai newydd.
Rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda’r Sefydliad Ffiseg i rannu’r straeon hyn yn ehangach ag athrawon a fydd, yn eu tro, yn gallu eu rhannu â’u dosbarthiadau nhw. Gyda’n gilydd rydym yn creu cyfres o lyfrynnau, y bwriedir iddi fod yn gatalog o straeon ar gyfer addysgu ffiseg.
Mae hanes gwyddoniaeth, a gwaith ymchwil cyfoes, yn llawn o straeon diddorol sy’n llawn dyngarwch. Gall ychwanegu straeon diddorol sy’n dal y dychymyg at wers ffiseg bwysleisio agwedd ddynol y pwnc a gwella’r graddau y mae myfyrwyr yn ymwneud â chynnwys cysyniadol.
Yn ôl yr ymchwilydd addysgol Fritz Kubli, gall straeon droi strwythurau gwyddonol nad oes ganddynt lais yn bethau byw a chyfoethogi dulliau o addysgu ffiseg.
Mae’n eithaf cyffredin i fyfyrwyr ddechrau dysgu am ffiseg drwy gael eu cyflwyno i unedau. Er bod gwybodaeth am unedau’n bwysig er mwyn deall ffiseg, gall gwersi am fesur fod yn ddiflas ac yn haniaethol i fyfyrwyr. Mae’r gyfrol gyntaf hon yn cynnwys cyfres o straeon am unedau a’r ffyrdd y maent wedi cael eu defnyddio.
Felly, gadewch i mi adrodd ambell stori wrthych am ffiseg...
Richard Brock