Roced Alka-Seltzer
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Tabled Alka-Seltzer
- Canister ffilm gwag
- Hen bapur newydd
- Dŵr
Cyfarwyddiadau
- Rhowch y dabled yn y canister ffilm. Ychwanegwch tua 1cm o ddŵr.
- Rhowch y caead ar y canister a'i ysgwyd yn ysgafn.
- Rhowch y canister ben i waered ar y papur newydd yn sydyn a sefwch 'nôl!
Canlyniadau ac Esboniad
Mae tabled Alka-Seltzer yn ffisian mewn dŵr ac yn rhyddhau nwy. Mae'r nwy yn cronni yn y canister nes bod y gwasgedd yn ormod, ac mae'n gwthio'r caead oddi ar y canister!