Plymiwr Sos Coch Cartesaidd
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Potel blastig 2 litr
- ‘Blu Tack’
- Powlen o ddŵr
- Pecyn bach o sos coch
Cyfarwyddiadau
- Rhowch y pecyn bach o sos coch mewn powlen o ddŵr i weld a yw’n arnofio ar ei sefyll – os nad ydyw, rhowch ychydig o ‘Blu Tack’ ar ei waelod.
- Llenwch y botel 2 litr i’r top â dŵr.
- Gwthiwch eich plymiwr sos coch i mewn drwy wddf y botel.
- Rhowch y top ar y botel yn dynn, gwasgwch y botel yn galed a gwyliwch eich plymiwr yn plymio.
Canlyniadau ac Esboniad
Mae'r plymiwr yn suddo pan fyddwch yn gwasgu'r botel, ac yn codi pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'w gwasgu.
Gair o gyngor: Os nad yw eich plymiwr yn plymio, neu os yw'n suddo heb godi, dylech roi mwy neu lai o 'Blu Tack' ar y pecyn sos coch.
Mae gwasgu’r botel yn gwasgu popeth sydd ynddi, gan gynnwys y swigod aer sydd yn y pecyn bach o sos coch. Wrth i folecylau’r aer gael eu gwasgu, mae’r pecyn bach yn mynd yn fwy dwys na’r dŵr ac yn suddo. Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r gorau i wasgu’r botel?