Lamp Lafa
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Gwydr mawr
- Lemonêd (neu ddŵr byrlymog)
- Cnau daear (neu resins)
Cyfarwyddiadau
- Yn gyntaf, llenwch y gwydr â lemonêd.
- Trowch y lemonêd am funud neu gadewch iddo fynd ychydig yn fflat.
- Gollyngwch rai cnau daear i mewn i'r gwydr.
Canlyniadau ac Esboniad
Bydd y cnau yn codi i'r wyneb ac yn disgyn eto, fel mewn lamp lafa. Bydd swigod nwy yn tyfu ar y cnau daear, gan achosi iddynt godi i'r wyneb. Pan fyddant yn cyrraedd yr wyneb, bydd y swigod yn byrstio a bydd cnau daear yn disgyn eto.