Standard Model of Particle Physics
Quantum and Nuclear

Gwrthdrawiad gronynnau - gwnewch eich hun!

Adnoddau Cymraeg for 11-14 IOP RESOURCES

Gronynnau

Beth yw’r cyfl ymydd gronynnau mwyaf enwog?

Cyfl ymydd gronynnau anferth yn CERN, ger Genefa, yw’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr (GHM), ble mae’n croesi’r ffi n rhwng y Swistir a Ffrainc, tua 100 m o dan y ddaear. Yma mae ffi segwyr yn astudio’r gronynnau lleiaf sy’n bod - blociau adeiladu popeth yn y bôn.

Yn y GHM, bydd dau belydr o ronynnau is-atomig o’r enw “hadronau” - un ai protonau neu ïonau (plwm) trwm - yn teithio i gyfeiriadau dirgroes y tu mewn i’r cyfl ymydd cylchol, gan ennill egni bob tro maen nhw’n mynd rownd, cyn cael eu taro benben â’i gilydd gydag egni uchel iawn. Bydd timau o ffi segwyr ledled y byd yn dadansoddi’r gronynnau sy’n cael eu creu yn y gwrthdrawiadau gan ddefnyddio canfodyddion gwahanol.

Dyma rai o’r cwestiynau mae’r GHM yn ceisio eu hateb:

  • Beth sy’n creu màs; ai’r Boson Higgs?
  • A yw mater tywyll yn bodoli?
  • Pam nad oes mwy o wrthfater yn y bydysawd?
  • Beth ddigwyddodd yn y Glec Fawr a chychwyn cyntaf y bydysawd?
  • A oes dimensiynau ychwanegol yn bodoli ar gyfer gofod ac amser?

Sut ydyn ni’n canfod beth mae gronynnau wedi eu gwneud ohono?

  • Mae protonau ac atomau yn cael eu cyfl ymu i fuaneddau uchel iawn a’u taro yn erbyn ei gilydd.
  • Bydd y malurion sydd ar ôl yn cael eu dadansoddi i weld pa ronynnau newydd gafodd eu creu.
  • Rydym yn gweld y llwybrau mae’r gronynnau gwahanol yn eu gadael ar eu holau wrth iddyn nhw basio drwy’r canfodydd.

Gallwn ddweud sut ronynnau ydyn nhw drwy edrych ar siâp eu llwybrau

  • Mae llwybrau gronynnau wedi eu gwefru yn crymu wrth iddyn nhw symud drwy’r canfodydd
  • Mae gronynnau niwtral (heb eu gwefru) yn dilyn llinellau syth
  • Mae gronynnau sydd â llai o egni yn dilyn llwybrau troellog
  • Mae gronynnau sydd â mwy o egni yn dilyn llwybrau hirach

Gwnewch eich symudyn gwrthdrawiad gronynnau eich hun

  • Dewiswch ddau ronyn (glain) i wrthdaro
  • Clymwch nhw’n dynn yn ei gilydd gydag ychydig o edau elastig

…Nawr penderfynwch…

  1. Pa mor fawr fydd eich gwrthdrawiad – faint o lanhawyr pibell?
  2. Fydd y gronynnau wedi eu gwefru – syth, crom yntau troellog?
  3. Faint o egni fydd ganddyn nhw – pa mor hir ydyn nhw a faint maen nhw wedi plygu?
  • Gwthiwch y glanhawyr pibell drwy’r ddolen elastig a chadwch nhw yn eu lle drwy eu troelli gyda’i gilydd. Yna siapiwch nhw!
  • Os hoffech chi gael gronynnau ar y pen, gofynnwch i arddangoswr ludo pom-poms ymlaen gyda’r gwn glud.

Pa ronynnau ydych chi wedi eu gwneud?

Ydych chi wedi canfod y boson Higgs?

Hwn yw’r gronyn y mae ffi segwyr yn meddwl a allai gario màs, sef yr hyn sy’n ein gwneud yn drwm. Maen nhw’n chwilio amdano mewn cyfl ymyddion gronynnau ledled y byd. 

Llawrlwythwch

Limit Less Campaign

Support our manifesto for change

The IOP wants to support young people to fulfil their potential by doing physics. Please sign the manifesto today so that we can show our politicians there is widespread support for improving equity and inclusion across the education sector.

Sign today