Gwnewch blaned heddiw – cysawd yr haul yfory!
Adnoddau Cymraeg for 11-14
Planedau
Planedau nwy (dwysedd isel)
- Torrwch ben y balwˆn i ffwrdd, ac yna agorwch y twll yn llydan iawn, yn ddigon mawr i chi roi eich bysedd ynddo.
- Gofynnwch i ffrind gael llond llaw mawr o stwffi n a’i roi y tu mewn i’r falwˆn. Gollyngwch y top a gwnewch yn siwˆr bod y maint yn iawn. Os nad yw’n ddigon mawr, rhowch fwy o stwffi n ynddi.
- Nawr dewiswch falwˆn arall a thorrwch y top i ffwrdd. Rhowch yr ail falwˆn dros y falwˆn sydd wedi ei llenwi â stwffi n, gan wneud yn siwˆr bod yr ail falwˆn yn gorchuddio’r twll.
Planedau creigiog (dwysedd uchel)
- Defnyddiwch y twmffat a’r jwg i lenwi’r botel gyda reis at y llinell sydd wedi ei marcio.
- Chwythwch falwˆn, trowch y top i rwystro’r aer rhag dianc, a rhowch ef dros dop y botel. Mae’n siwˆr y bydd arnoch angen ffrind i’ch helpu!
- Trowch y botel â’i phen i waered ac ysgwydwch y reis lawr i’r falwˆn (gafaelwch yng ngwaelod y falwˆn fel nad yw’n dod i ffwrdd).
- Tynnwch y falwˆn oddi ar y botel yn ofalus a gadewch weddill yr aer allan.
- Torrwch y top oddi ar y falwˆn (uwchben lefel y reis). Nawr torrwch y top oddi ar falwˆn arall a rhowch hi dros y falwˆn gyntaf, gan wneud yn siwˆr bod y twll wedi ei orchuddio.
Beth mae planedau wedi eu gwneud ohono?
Mae planedau o’n cwmpas ym mhobman – mae wyth ohonyn nhw yng nghysawd ein haul ni a llawer mwy o amgylch sêr yng ngweddill y bydysawd.
Daw planedau mewn llawer o liwiau a meintiau gwahanol, mae eu pwysau yn amrywio ac maent wedi eu gwneud o bethau gwahanol hefyd. Rydym yn meddwl bod yr holl ddeunydd sydd wedi creu’r planedau wedi ei ffurfi o y tu mewn i sêr biliynau o fl ynyddoedd yn ôl. Mae planedau llai yn aml wedi eu gwneud o graig ac mae planedau mwy yn aml yn beli mawr o nwy.
Mae pwysau planedau yn amrywio’n fawr iawn. Mae hyd yn oed y rhai sydd yr un maint yn gallu amrywio o ran eu pwysau – dwysedd yw’r enw am hyn. Mae planedau dwysedd uchel yn drwm iawn i’w maint, ac mae planedau dwysedd isel yn ysgafn iawn.
Er enghraifft, yng nghysawd ein haul ni, mae’r Ddaear a phlaned Mawrth yn blanedau bach, creigiog, dwysedd uchel; mae planedau Iau a Sadwrn yn blanedau nwy enfawr, dwysedd isel.
Pa liw fydd hi? Dewiswch ddwy falwˆn o’r lliw hwnnw.
Pa mor ddwys yw eich planed? Dwysedd uchel – wedi ei llenwi â reis Dwysedd isel – wedi ei llenwi â stwffin.
Beth yw enw eich planed? Gwnewch gysawd yr haul yn eich cartref. Arbrofwch gyda’r hyn rydych yn ei ddefnyddio i lenwi eich planed ar gyfer dwyseddau gwahanol. Ar gyfer planedau nwy, gallech chwythu balwˆn neu ei llenwi â dwˆr, ond byddwch yn ofalus nad yw hi’n byrstio!
Sut atmosffer sydd gan eich planed?
- Anweledig! Peidiwch â gwneud dim.
- Tenau – defnyddiwch haenen lynu. Bydd stribedi neu blygiadau yn yr haenen lynu yn edrych fel chwyrliadau nwy.
- Trwchus a chymylog - defnyddiwch ddarnau o wlân cotwm.
Addurnwch eich planed
- Defnyddiwch y pennau ysgrifennu i’w haddurno.
- Rhowch dywod dros blanedau creigiog
- Rhowch glityr dros blanedau rhewllyd.
Beth sydd ar arwyneb planed?
Mae atmosffer o amgylch y rhan fwyaf o blanedau solet. Haenen o nwy yw hon sy’n lapio o amgylch y blaned. Ar y Ddaear, mae’r atmosffer yn ein hamddiffyn rhag effeithiau niweidiol yr haul. Er hynny, mae trwch yr atmosffer yn denau iawn o’i gymharu â maint y Ddaear – mae’r atmosffer tua 70 milltir o drwch, ac mae’r pellter o ganol y Ddaear at yr wyneb bron yn 4000 milltir!
O dan yr atmosffer, mae gan y planedau nifer o wahanol arwynebau. Mae’r Ddaear wedi ei gorchuddio’n bennaf â dwˆr, craig, pridd ac iâ (a llawer o goncrit, ers dyfodiad pobl). Mae gan y blaned Mawrth arwyneb coch creigiog. Nid ydym wedi dod o hyd iddi eto, ond efallai bod planed wedi ei gorchuddio â siocled rhywle yn y bydysawd… mmm, blasus!