Pressure
Properties of Matter
Ffynnon gwasgedd aer
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
- Level Elementary
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Potel blastig
- Siswrn
- Gwelltyn
- Pwti
- Lliw bwyd
- Balŵn
Cyfarwyddiadau
- Gwnewch dwll bach, tua 10cm o waelod y botel, gwthiwch y gwelltyn i mewn i'r twll nes bod tua ei hanner y tu allan i'r botel, yn pwyntio at i fyny. Defnyddiwch y pwti i selio'r twll.
- Llenwch y botel at ei hanner â dŵr sydd wedi'i liwio â'r lliw bwyd. Ni fydd dŵr yn dod allan o'r gwelltyn.
- Chwythwch aer i mewn i'r balŵn, a chadwch yr aer ynddo wrth i chi ymestyn ceg y balŵn dros geg y botel. Yna, gadewch yr aer allan o'r balŵn. Bydd dŵr yn tasgu o'r gwelltyn wrth i'r aer ddod allan!
Canlyniadau ac Esboniad
I ddechrau mae aer yn gwasgu i'r un graddau ar y dŵr sydd yn y botel a'r gwelltyn, ond mae rhoi'r balŵn llawn aer dros geg y botel yn cynyddu'r gwasgedd aer yn y botel. Wrth i'r aer ddod allan o'r balŵn, mae'n gwasgu ar y dŵr ac yn ei wthio trwy'r gwelltyn.