Ffon Sigledig
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Ffon (1m o hyd)
- Talp o glai
Cyfarwyddiadau
- Gwthiwch dalp o glai tua maint eich dwrn ar y ffon, 20cm o’r pen.
- Gyda’r pen clai yn agosach at eich llaw ceisiwch gydbwyso’r ffon.
- Nawr trowch y ffon wyneb i waered a cheisiwch ei gydbwyso eto.
Canlyniadau ac Esboniad
Mae’n haws o lawer! Maer’r ffon yn cylchdroi’n arafach pan fydd y clai ar y top, felly mae mwy o amser i addasu a’I gadw’n gytbwys. Y pellaf mae’r màs o'r canol cylchdro (eich llaw) arafaf mae’n cylchdroi.