Dyluniwch eich galaeth eich hun!
Adnoddau Cymraeg for 11-14
Galaethau
Beth yw galaethau?
Casgliadau enfawr o sêr yn y gofod yw galaethau. Y Llwybr Llaethog yw ein galaeth ni, ac un yn unig o’r miliynau o sêr sydd ynddi yw’r Haul! O’r Ddaear mae galaethau eraill yn edrych fel sêr, ond gyda help telesgopau pwerus gallwn weld llawer mwy. Gallwn ddweud beth yw eu siâp a’u lliw – mae ein Llwybr Llaethog ni’n droellog. Mae’r lliw yn dibynnu ar lawer o bethau, e.e. sut y maent yn symud a beth sydd ynddynt.
Pa siâp fydd eich galaeth chi?
Yn droellog – yn wastad ac yn troelli, gyda breichiau troellog.
Yn eliptigol – siapiau hirgrwn mawr fel pêl wedi’i hymestyn.
Gallech ddewis llawer o siapiau eraill hefyd – gallwch ddyfeisio un!
- Tynnwch lun o siâp eich galaeth ar bapur, a rhowch haenen o blastig clir drosto. Rhowch lud ac ynddo ddarnau bach disglair ar y plastig. Y darnau disglair yw’r sêr! Ychwanegwch unrhyw addurniadau eraill yn awr...
- Ydych chi am gael rhagor o sêr? Beth am wasgaru gliter neu rai sêr y tu mewn i siâp eich galaeth? Dylai fod mwy o sêr yn y canol.
- A oes twll du yng nghanol eich galaeth? Rhowch secwin du yn y canol!
- Ychwanegwch “ofod” yn awr – gludwch bapur du yn ofalus ar ffurf collage o amgylch siâp eich galaeth.
Beth fydd lliw eich galaeth?
Bydd sêr yn aml yn troi’n goch pan fyddant yn heneiddio ac yn marw. Mae sêr newydd yn llachar iawn ac yn edrych yn las.
Mae pethau sy’n symud yn gyfl ym iawn oddi wrthym yn edrych yn fwy coch (rhuddiad). Mae pethau sy’n symud yn gyfl ym iawn tuag atom yn edrych yn fwy glas (glasiad).
A yw’n troelli?
Yr ochr sy’n troelli tuag atom: glas Yr ochr sy’n troelli oddi wrthym: coch (Dyma’r rhuddiad a’r glasiad eto!)
Ble mae’r sêr?
Mae gan alaethau mwy o sêr yn y canol a llai o sêr ar yr ymylon, felly mae eu canol yn fwy llachar. I wneud eich galaeth yn fwy llachar (fel bod mwy o olau’n disgleirio drwodd), a fyddai angen i chi ddefnyddio mwy neu lai o haenau o bapur sidan?
Meddyliwch sut y bydd eich galaeth yn edrych, a gludwch bapur sidan ar ffurf collage mewn haenau i greu’r lliwiau iawn.
Ar ôl gorffen, rhowch haenen arall o blastig dros eich galaeth a gludwch hi yn ei lle.
Ewch â’ch galaeth adref a gosodwch hi yn erbyn y ffenest (dylai’r ochr lle mae’r gliter a’r sêr fod yn eich wynebu chi). Pan fydd yr haul yn tywynnu drwy’r alaeth, fe welwch chi’r cymysgedd o liwiau sydd yn yr alaeth, gyda’r gofod o’u hamgylch. Nid oes angen telesgop arnoch i weld galaethau’n awr!