Cwch Ffoil
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Darn o ffoil
- Siswrn
- Hylif golchi llestri
- Sinc neu fath
Cyfarwyddiadau
- Cymerwch eich ffoil a thorri siâp (petryal gyda thriongl ar ei ben) 4cm o led x 10cm o hyd. O'r gwaelod torrwch slot gyda chylch ar y top.
- Rhowch eich cwch yn ofalus mewn sinc sy'n llawn o ddŵr glân.
- Rhowch ddiferyn o hylif golchi llestri yn ofalus yn y twll yn y cwch.
Canlyniadau ac Esboniad
Mae'r cwch yn symud! Mae moleciwlau dŵr yn cael eu atynnu at eu gilydd, gan greu "tensiwn arwyneb". Mae'r sebon yn tarfu ar y wyneb tu ôl i'r cwch ond mae'r moleciwlau tu blaen yn dal i dynnu at eu gilydd. Felly caiff y cwch ei dynnu ymlaen.