Crib grymus
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Crib neilon
- Tap dŵr
Cyfarwyddiadau
- Agorwch y tap hyd fod y dŵr yn llifo.
- Yn awr, gafaelwch yn eich crib.
- Tynnwch y crib drwy eich gwallt sawl gwaith.
- Dewch â'r crib tuag at y dŵr yn araf, 10cm islaw'r tap.
Canlyniadau ac Esboniad
Pan fydd y crib tua 3cm i ffwrdd, bydd y dŵr yn plygu tuag ato! Mae rhai gwrthrychau, fel gwallt a phastig, yn datblygu gwefr drydanol pan gânt eu rhwbio yn erbyn ei gilydd.
Mae'r wefr yn eich crib yn denu gwefrau trydanol bach iawn yn y moleciwlau dŵr, ac yn tynnu tuag at y crib.