Corwynt mewn potel
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Dwy botel blastig fawr
- Wasier
- Dŵr
- Tâp sy’n dal dŵr
- Lliw bwyd
Cyfarwyddiadau
- Llenwch ddwy ran o dair o un botel â dŵr lliw. Trowch y botel arall ben i waered, rhowch wasier rhwng y ddwy botel a defnyddiwch y tâp i’w clymu nhw’n sownd wrth ei gilydd.
- Trowch y poteli ben i waered a gadewch i’r dŵr lifo’n naturiol. Yna, troellwch y poteli’n egnïol.
Canlyniadau ac Esboniad
Wrth i’r dŵr gael ei droelli, mae’n ffurfio fortecs tebyg i gorwynt ac yn llifo’n gynt o lawer i’r botel isaf.
Mae aer o’r botel isaf yn rhuthro i’r top trwy dwll yng nghanol y fortecs, wrth i’r dŵr sy’n llifo’n gyflym ddraenio’n sydyn ar yr ymylon.