Gwn Dŵr Gwelltyn
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Gwelltyn
- Ffrind
- Pren mesur
- Siswrn
- Tâp gludiog
- Soser o ddŵr
Cyfarwyddiadau
- Y sialens yw codi'r dŵr o'r soser gan ddefnyddio gweltyn ond heb sugno.
- Gan ddefnyddio eich pren mesur, torrwch eich gwelltyn yn ddau ddarn: un 3cm o hyd a'r llal yn 5cm o hyd.
- Unwch y darnau â thâp gludiog ar hyd un ochr fel eu bod yn llunio ongl 90 gradd, ond gadewch y ddau ben yn agored.
- Gosodwch ben byrraf y gwelltyn yn y soser o ddŵr.
- Nawr, chwythwch yn galed!
Canlyniadau ac Esboniad
Pan fydd aer yn symud, bydd y gasgedd yn gostwng. Felly, pan fyddwch yn chwythu, bydd gwasgedd yr aer ar frig y gwelltyn yn gostwng. Ond bydd y gwasgedd yr aer dros y soser yn aros yr un fath, ac felly caiff y dŵr ei wthio i fyny'r gwelltyn.