Share this article:

Earth and Space

Arbrofion i'w gwneud gartref yn ymwneud â'r gofod

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Dathlu hanner canrif ers i’r bobl gyntaf gerdded ar y lleuad, gyda Marfin a Milo. 

Yma gallwch bori trwy'r ôl-gatalog cyfan o weithgareddau ffiseg Marfin a Milo. Gallwch hefyd archwilio casgliad Marfin a Milo yn ôl termau ffiseg.

Properties of Matter

Swigod sy'n syrthio

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Yr hyn sydd ei angen arnoch

  • Potel blastig ar gyfer diod
  • Dŵr

Cyfarwyddiadau

  1. Llenwch y botel â dŵr nes ei bod bron iawn yn llawn.
  2. Caewch y caead yn dynn, a thaflwch y botel i'r awyr.
  3. Gwyliwch y botel yn ofalus ar ei ffordd i fyny a'i ffordd i lawr.

Canlyniadau ac Esboniad

Wrth i'r botel ddisgyn yn rhydd, mae'r tyniant arwyneb yn gwthio'r aer i mewn i swigen sydd â'r arwynebedd lleiaf posibl, sef sffêr. Yn y gofod, mae'r un effaith i'w gweld gyda diferion hylif yn yr aer.

Newtons Third Law
Forces and Motion

Roced balŵn

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Yr hyn sydd ei angen arnoch

  • Gwelltyn - wedi'i dorri yn ei hanner
  • Balŵn

  • Darn hir o lingyn 
  • Peg dillad
  • Tâp gludiog

Cyfarwyddiadau

  1. Chwythwch aer i mewn i'r balŵn, a rhowch beg am wddf y balŵn i gadw'r aer i mewn.
  2. Gwthiwch y llinyn trwy'r gwelltyn, ac yna tapiwch y gwelltyn ar ei hyd yn sownd wrth y balŵn.
  3. Clymwch y llinyn o naill ben yr ystafell i'r llall.
  4. Nawr tynnwch y peg i ffwrdd.

Canlyniadau ac Esboniad

Wrth i'r aer ruthro allan, mae'n gwthio'n ôl ar y balŵn ac yn ei yrru yn ei flaen.

Roced Alka-Seltzer

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Yr hyn sydd ei angen arnoch

  • Tabled Alka-Seltzer
  • Canister ffilm gwag
  • Hen bapur newydd 
  • Dŵr

Cyfarwyddiadau 

  1. Rhowch y dabled yn y canister ffilm. Ychwanegwch tua 1cm o ddŵr. 
  2. Rhowch y caead ar y canister a'i ysgwyd yn ysgafn.  
  3. Rhowch y canister ben i waered ar y papur newydd yn sydyn a sefwch 'nôl!

Canlyniadau ac Esboniad

Mae tabled Alka-Seltzer yn ffisian mewn dŵr ac yn rhyddhau nwy. Mae'r nwy yn cronni yn y canister nes bod y gwasgedd yn ormod, ac mae'n gwthio'r caead oddi ar y canister!

Sound Wave
Light, Sound and Waves

Cloch ddistaw

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Yr hyn sydd ei angen arnoch

  • Potel wydr
  • Glanhäwr pibell
  • Cloch fach 
  • Caead a phwmp cadw gwin 

Cyfarwyddiadau

  1. Clymwch un pen i'r glanhäwr pibell yn sownd wrth y gloch. Clymwch y pen arall yn sownd wrth y caead cadw, gan ofalu bod modd o hyd iddo selio'r botel yn iawn.
  2. Rhowch y caead ar y botel gan ofalu nad yw'r gloch yn taro yn erbyn ochr y botel pan fyddwch yn ei hysgwyd. Dylai fod modd i chi glywed y gloch.
  3. Defnyddiwch y pwmp sy'n rhan o'r caead i dynnu cymaint o aer ag sy'n bosibl allan o'r botel. Yna, ysgydwch y botel eto.

Canlyniadau ac Esboniad

Ni allwch glywed y gloch am eich bod wedi creu gwactod rhannol yn y botel. Heb aer yn y botel, ni all y sŵn deithio o'r gloch i'ch clust.

Pressure
Properties of Matter

Ffynnon gwasgedd aer

Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14

Yr hyn sydd ei angen arnoch

  • Potel blastig
  • Siswrn 
  • Gwelltyn
  • Pwti
  • Lliw bwyd 
  • Balŵn

Cyfarwyddiadau 

  1. Gwnewch dwll bach, tua 10cm o waelod y botel, gwthiwch y gwelltyn i mewn i'r twll nes bod tua ei hanner y tu allan i'r botel, yn pwyntio at i fyny. Defnyddiwch y pwti i selio'r twll.
  2. Llenwch y botel at ei hanner â dŵr sydd wedi'i liwio â'r lliw bwyd. Ni fydd dŵr yn dod allan o'r gwelltyn.
  3. Chwythwch aer i mewn i'r balŵn, a chadwch yr aer ynddo wrth i chi ymestyn ceg y balŵn dros geg y botel. Yna, gadewch yr aer allan o'r balŵn. Bydd dŵr yn tasgu o'r gwelltyn wrth i'r aer ddod allan!

Canlyniadau ac Esboniad

I ddechrau mae aer yn gwasgu i'r un graddau ar y dŵr sydd yn y botel a'r gwelltyn, ond mae rhoi'r balŵn llawn aer dros geg y botel yn cynyddu'r gwasgedd aer yn y botel. Wrth i'r aer ddod allan o'r balŵn, mae'n gwasgu ar y dŵr ac yn ei wthio trwy'r gwelltyn.

IOP AWARDS 2025

Teachers of Physics Awards

The Teachers of Physics Award celebrates the success of secondary school physics teachers who have raised the profile of physics and science in schools. Nominations for 2025 are now open.

Start your nomination now