10 Cyngor i Athrawon am Addysgu Cynhwysol
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14 14-16 16-19
Adnoddau Cymraeg for 11-14 14-16 16-19
Yma gallwch bori trwy'r ôl-gatalog cyfan o Cymraeg adnoddau ffiseg.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14 14-16 16-19
Adnoddau Cymraeg for 11-14 14-16 16-19
Mae stori ffiseg yn cydblethu â straeon pobl. Mae Richard wedi casglu llawer o straeon rhyfeddol, difyr ac eglurhaol ac rwy’n falch iawn bod y Sefydliad Ffiseg yn gallu ei helpu i’w rhannu. Rwy’n siwr y cewch eich cyfareddu gan y straeon eu hunain a’r modd diddorol y cânt eu hailadrodd yma. Byddant o ddiddordeb i unrhyw athro, ac maent yn barod i’w defnyddio gyda myfyrwyr er mwyn dod â’r ddisgyblaeth yn fyw a dangos ei bod yn dibynnu ar ddyfeisgarwch ac eiddilwch pobl.
Y llyfryn hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o lyfrynnau ac mae’n dangos sut y mae ffiseg wedi datblygu o awydd i ddarganfod, diffinio a mesur pethau y gellir eu meintioli – ac yna chwilio am ffyrdd o’u cysylltu â phethau eraill. Rwy’n siwr y byddwch yn ei fwynhau.
Charles Tracy
Pennaeth Addysg, Y Sefydliad Ffiseg
Mae rhai o’r straeon a glywais gan fy athrawon ffiseg yn fyw iawn yn fy nghof o hyd. Rwy’n cofio clywed am elc dof Tycho Brahe a’i drwyn ffug o fetel, a chlywed am nodweddion ecsentrig niferus Newton. Pan ddes i’n athro, roeddwn innau’n rhannu’r straeon hyn â’m dosbarthiadau a dechreuais gasglu rhagor ohonynt drwy sgwrsio ag athrawon a thrwy ddarllen. Er nad wyf yn athro ysgol mwyach, mae gen i gasgliad o gannoedd o straeon am ffiseg erbyn hyn, ac rwy’n dal i ddod o hyd i rai newydd.
Rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda’r Sefydliad Ffiseg i rannu’r straeon hyn yn ehangach ag athrawon a fydd, yn eu tro, yn gallu eu rhannu â’u dosbarthiadau nhw. Gyda’n gilydd rydym yn creu cyfres o lyfrynnau, y bwriedir iddi fod yn gatalog o straeon ar gyfer addysgu ffiseg.
Mae hanes gwyddoniaeth, a gwaith ymchwil cyfoes, yn llawn o straeon diddorol sy’n llawn dyngarwch. Gall ychwanegu straeon diddorol sy’n dal y dychymyg at wers ffiseg bwysleisio agwedd ddynol y pwnc a gwella’r graddau y mae myfyrwyr yn ymwneud â chynnwys cysyniadol.
Yn ôl yr ymchwilydd addysgol Fritz Kubli, gall straeon droi strwythurau gwyddonol nad oes ganddynt lais yn bethau byw a chyfoethogi dulliau o addysgu ffiseg.
Mae’n eithaf cyffredin i fyfyrwyr ddechrau dysgu am ffiseg drwy gael eu cyflwyno i unedau. Er bod gwybodaeth am unedau’n bwysig er mwyn deall ffiseg, gall gwersi am fesur fod yn ddiflas ac yn haniaethol i fyfyrwyr. Mae’r gyfrol gyntaf hon yn cynnwys cyfres o straeon am unedau a’r ffyrdd y maent wedi cael eu defnyddio.
Felly, gadewch i mi adrodd ambell stori wrthych am ffiseg...
Richard Brock
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Pan fydd aer yn symud, bydd y gasgedd yn gostwng. Felly, pan fyddwch yn chwythu, bydd gwasgedd yr aer ar frig y gwelltyn yn gostwng. Ond bydd y gwasgedd yr aer dros y soser yn aros yr un fath, ac felly caiff y dŵr ei wthio i fyny'r gwelltyn.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Pan fydd y crib tua 3cm i ffwrdd, bydd y dŵr yn plygu tuag ato! Mae rhai gwrthrychau, fel gwallt a phastig, yn datblygu gwefr drydanol pan gânt eu rhwbio yn erbyn ei gilydd.
Mae'r wefr yn eich crib yn denu gwefrau trydanol bach iawn yn y moleciwlau dŵr, ac yn tynnu tuag at y crib.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae pocedi bach iawn o nwy yn y sebon yn cynhesu ac yn ehangu i bob cyfeiriad, gan wthio'r sebon i mewn i siapiau rhyfedd ac artistig.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae'r wy yn dechrau troelli! Nid yw'r melynwy a'r gwynwy wedi'u cysylltu â'r plisgyn, felly maent yn dal i symud pan fyddwch yn stopio'r wy amrwd. Gofynnwch i ffrind gymysgu'r wyau, a defnyddiwch y tric i wahaniaethu rhyngddynt.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae halen yn gostwng ymdoddbwynt dŵr, felly mae'r iâ yn ymdoddi. Ond mae'r dŵr yn rhewi eto'n gyflym, ac yn dal yr edau yn ei le.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Bydd y cnau yn codi i'r wyneb ac yn disgyn eto, fel mewn lamp lafa. Bydd swigod nwy yn tyfu ar y cnau daear, gan achosi iddynt godi i'r wyneb. Pan fyddant yn cyrraedd yr wyneb, bydd y swigod yn byrstio a bydd cnau daear yn disgyn eto.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Edrychwch! Mae'n acros yn llawn aer! Wrth i'r balŵn ymestyn, gwthiodd aerr o'r botel. Mae'r gwasgedd aer yn y botel yn is na'r gwasgedd aer yn y balŵn, felly nid oedd y botel yn ddigon cryf i wasgu'r aer allan.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae'n swino'n gryfach am fod y dirgryniadau'n teithio trwy'r metel a'r llinyn yn haws na thrwy'r awyr.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae tabled Alka-Seltzer yn ffisian mewn dŵr ac yn rhyddhau nwy. Mae'r nwy yn cronni yn y canister nes bod y gwasgedd yn ormod, ac mae'n gwthio'r caead oddi ar y canister!
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae'r ddeintbigau'n symud. Yn union fel nofwyr cydamserol ! Mae’r dŵr yn gwneud i’r pren ymestyn, mae’r pennau sydd wedi eu torri yn pwyso yn erbyn ei gilydd, ac mae’r deintbig yn agor allan.
Mae’r un peth yn digwydd i ddrysau yn ystod tywydd llaith – byddant yn chwyddo ac yn mynd yn sownd.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Mae’n haws o lawer! Maer’r ffon yn cylchdroi’n arafach pan fydd y clai ar y top, felly mae mwy o amser i addasu a’I gadw’n gytbwys. Y pellaf mae’r màs o'r canol cylchdro (eich llaw) arafaf mae’n cylchdroi.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Cyfarwyddiadau
Mae'r cwch yn symud! Mae moleciwlau dŵr yn cael eu atynnu at eu gilydd, gan greu "tensiwn arwyneb". Mae'r sebon yn tarfu ar y wyneb tu ôl i'r cwch ond mae'r moleciwlau tu blaen yn dal i dynnu at eu gilydd. Felly caiff y cwch ei dynnu ymlaen.
Wrth i'r botel ddisgyn yn rhydd, mae'r tyniant arwyneb yn gwthio'r aer i mewn i swigen sydd â'r arwynebedd lleiaf posibl, sef sffêr. Yn y gofod, mae'r un effaith i'w gweld gyda diferion hylif yn yr aer.
Balŵn
Wrth i'r aer ruthro allan, mae'n gwthio'n ôl ar y balŵn ac yn ei yrru yn ei flaen.
Ni allwch glywed y gloch am eich bod wedi creu gwactod rhannol yn y botel. Heb aer yn y botel, ni all y sŵn deithio o'r gloch i'ch clust.
I ddechrau mae aer yn gwasgu i'r un graddau ar y dŵr sydd yn y botel a'r gwelltyn, ond mae rhoi'r balŵn llawn aer dros geg y botel yn cynyddu'r gwasgedd aer yn y botel. Wrth i'r aer ddod allan o'r balŵn, mae'n gwasgu ar y dŵr ac yn ei wthio trwy'r gwelltyn.
Mae planedau o’n cwmpas ym mhobman – mae wyth ohonyn nhw yng nghysawd ein haul ni a llawer mwy o amgylch sêr yng ngweddill y bydysawd.
Daw planedau mewn llawer o liwiau a meintiau gwahanol, mae eu pwysau yn amrywio ac maent wedi eu gwneud o bethau gwahanol hefyd. Rydym yn meddwl bod yr holl ddeunydd sydd wedi creu’r planedau wedi ei ffurfi o y tu mewn i sêr biliynau o fl ynyddoedd yn ôl. Mae planedau llai yn aml wedi eu gwneud o graig ac mae planedau mwy yn aml yn beli mawr o nwy.
Mae pwysau planedau yn amrywio’n fawr iawn. Mae hyd yn oed y rhai sydd yr un maint yn gallu amrywio o ran eu pwysau – dwysedd yw’r enw am hyn. Mae planedau dwysedd uchel yn drwm iawn i’w maint, ac mae planedau dwysedd isel yn ysgafn iawn.
Er enghraifft, yng nghysawd ein haul ni, mae’r Ddaear a phlaned Mawrth yn blanedau bach, creigiog, dwysedd uchel; mae planedau Iau a Sadwrn yn blanedau nwy enfawr, dwysedd isel.
Pa liw fydd hi? Dewiswch ddwy falwˆn o’r lliw hwnnw.
Pa mor ddwys yw eich planed? Dwysedd uchel – wedi ei llenwi â reis Dwysedd isel – wedi ei llenwi â stwffin.
Beth yw enw eich planed? Gwnewch gysawd yr haul yn eich cartref. Arbrofwch gyda’r hyn rydych yn ei ddefnyddio i lenwi eich planed ar gyfer dwyseddau gwahanol. Ar gyfer planedau nwy, gallech chwythu balwˆn neu ei llenwi â dwˆr, ond byddwch yn ofalus nad yw hi’n byrstio!
Sut atmosffer sydd gan eich planed?
Mae atmosffer o amgylch y rhan fwyaf o blanedau solet. Haenen o nwy yw hon sy’n lapio o amgylch y blaned. Ar y Ddaear, mae’r atmosffer yn ein hamddiffyn rhag effeithiau niweidiol yr haul. Er hynny, mae trwch yr atmosffer yn denau iawn o’i gymharu â maint y Ddaear – mae’r atmosffer tua 70 milltir o drwch, ac mae’r pellter o ganol y Ddaear at yr wyneb bron yn 4000 milltir!
O dan yr atmosffer, mae gan y planedau nifer o wahanol arwynebau. Mae’r Ddaear wedi ei gorchuddio’n bennaf â dwˆr, craig, pridd ac iâ (a llawer o goncrit, ers dyfodiad pobl). Mae gan y blaned Mawrth arwyneb coch creigiog. Nid ydym wedi dod o hyd iddi eto, ond efallai bod planed wedi ei gorchuddio â siocled rhywle yn y bydysawd… mmm, blasus!
Cyfl ymydd gronynnau anferth yn CERN, ger Genefa, yw’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr (GHM), ble mae’n croesi’r ffi n rhwng y Swistir a Ffrainc, tua 100 m o dan y ddaear. Yma mae ffi segwyr yn astudio’r gronynnau lleiaf sy’n bod - blociau adeiladu popeth yn y bôn.
Yn y GHM, bydd dau belydr o ronynnau is-atomig o’r enw “hadronau” - un ai protonau neu ïonau (plwm) trwm - yn teithio i gyfeiriadau dirgroes y tu mewn i’r cyfl ymydd cylchol, gan ennill egni bob tro maen nhw’n mynd rownd, cyn cael eu taro benben â’i gilydd gydag egni uchel iawn. Bydd timau o ffi segwyr ledled y byd yn dadansoddi’r gronynnau sy’n cael eu creu yn y gwrthdrawiadau gan ddefnyddio canfodyddion gwahanol.
…Nawr penderfynwch…
Hwn yw’r gronyn y mae ffi segwyr yn meddwl a allai gario màs, sef yr hyn sy’n ein gwneud yn drwm. Maen nhw’n chwilio amdano mewn cyfl ymyddion gronynnau ledled y byd.
Casgliadau enfawr o sêr yn y gofod yw galaethau. Y Llwybr Llaethog yw ein galaeth ni, ac un yn unig o’r miliynau o sêr sydd ynddi yw’r Haul! O’r Ddaear mae galaethau eraill yn edrych fel sêr, ond gyda help telesgopau pwerus gallwn weld llawer mwy. Gallwn ddweud beth yw eu siâp a’u lliw – mae ein Llwybr Llaethog ni’n droellog. Mae’r lliw yn dibynnu ar lawer o bethau, e.e. sut y maent yn symud a beth sydd ynddynt.
Yn droellog – yn wastad ac yn troelli, gyda breichiau troellog.
Yn eliptigol – siapiau hirgrwn mawr fel pêl wedi’i hymestyn.
Gallech ddewis llawer o siapiau eraill hefyd – gallwch ddyfeisio un!
Bydd sêr yn aml yn troi’n goch pan fyddant yn heneiddio ac yn marw. Mae sêr newydd yn llachar iawn ac yn edrych yn las.
Mae pethau sy’n symud yn gyfl ym iawn oddi wrthym yn edrych yn fwy coch (rhuddiad). Mae pethau sy’n symud yn gyfl ym iawn tuag atom yn edrych yn fwy glas (glasiad).
A yw’n troelli?
Yr ochr sy’n troelli tuag atom: glas Yr ochr sy’n troelli oddi wrthym: coch (Dyma’r rhuddiad a’r glasiad eto!)
Mae gan alaethau mwy o sêr yn y canol a llai o sêr ar yr ymylon, felly mae eu canol yn fwy llachar. I wneud eich galaeth yn fwy llachar (fel bod mwy o olau’n disgleirio drwodd), a fyddai angen i chi ddefnyddio mwy neu lai o haenau o bapur sidan?
Meddyliwch sut y bydd eich galaeth yn edrych, a gludwch bapur sidan ar ffurf collage mewn haenau i greu’r lliwiau iawn.
Ar ôl gorffen, rhowch haenen arall o blastig dros eich galaeth a gludwch hi yn ei lle.
Ewch â’ch galaeth adref a gosodwch hi yn erbyn y ffenest (dylai’r ochr lle mae’r gliter a’r sêr fod yn eich wynebu chi). Pan fydd yr haul yn tywynnu drwy’r alaeth, fe welwch chi’r cymysgedd o liwiau sydd yn yr alaeth, gyda’r gofod o’u hamgylch. Nid oes angen telesgop arnoch i weld galaethau’n awr!
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Mae tynnu'r clwtyn ar hyd y llinyn yn gwneud iddo ddirgrynu a chynhyrchu sain isel. Ond mae'r cwpan a'r aer sydd o'i amgylch yn dirgrynu hefyd, felly caiff y sain ei chwyddo ddigon i ni allu ei chlywed.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Mae'r plymiwr yn suddo pan fyddwch yn gwasgu'r botel, ac yn codi pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'w gwasgu.
Gair o gyngor: Os nad yw eich plymiwr yn plymio, neu os yw'n suddo heb godi, dylech roi mwy neu lai o 'Blu Tack' ar y pecyn sos coch.
Mae gwasgu’r botel yn gwasgu popeth sydd ynddi, gan gynnwys y swigod aer sydd yn y pecyn bach o sos coch. Wrth i folecylau’r aer gael eu gwasgu, mae’r pecyn bach yn mynd yn fwy dwys na’r dŵr ac yn suddo. Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r gorau i wasgu’r botel?
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Ffrithiant yw’r grym sy’n gweithredu yn erbyn gallu dau arwyneb sy’n cyffwrdd â’i gilydd i symud. Mae’r ffrithiant sydd rhwng dim ond dwy dudalen yn fach iawn, ond oherwydd bod llawer o dudalennau yn y llyfrau mae’r grym yn dod yn amlwg iawn!
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Dylai’r malws melys dyfu llawer. Pan fyddwch yn agor y caead dylent ddychwelyd i’w maint blaenorol.
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
Wrth i’r dŵr gael ei droelli, mae’n ffurfio fortecs tebyg i gorwynt ac yn llifo’n gynt o lawer i’r botel isaf.
Mae aer o’r botel isaf yn rhuthro i’r top trwy dwll yng nghanol y fortecs, wrth i’r dŵr sy’n llifo’n gyflym ddraenio’n sydyn ar yr ymylon.
The IOP wants to support young people to fulfil their potential by doing physics. Please sign the manifesto today so that we can show our politicians there is widespread support for improving equity and inclusion across the education sector.
Sign today