Sound Wave
Light, Sound and Waves
Cloch ddistaw
Adnoddau Cymraeg for 5-11 11-14
- Level Elementary
Yr hyn sydd ei angen arnoch
- Potel wydr
- Glanhäwr pibell
- Cloch fach
- Caead a phwmp cadw gwin
Cyfarwyddiadau
- Clymwch un pen i'r glanhäwr pibell yn sownd wrth y gloch. Clymwch y pen arall yn sownd wrth y caead cadw, gan ofalu bod modd o hyd iddo selio'r botel yn iawn.
- Rhowch y caead ar y botel gan ofalu nad yw'r gloch yn taro yn erbyn ochr y botel pan fyddwch yn ei hysgwyd. Dylai fod modd i chi glywed y gloch.
- Defnyddiwch y pwmp sy'n rhan o'r caead i dynnu cymaint o aer ag sy'n bosibl allan o'r botel. Yna, ysgydwch y botel eto.
Canlyniadau ac Esboniad
Ni allwch glywed y gloch am eich bod wedi creu gwactod rhannol yn y botel. Heb aer yn y botel, ni all y sŵn deithio o'r gloch i'ch clust.